Mae’r Atodiad hwn yn rhoi esboniad o:
· newidiadau a wnaed rhwng Cyllideb Derfynol 2024-25 (a Ailddatganwyd ym mis Medi 2024) a Chyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024. Nid yw’r newidiadau hyn yn rhan o’r llinell sylfaen at ddibenion Cyllideb Ddrafft 2025-26. Mae’r tablau isod yn rhoi rhywfaint o naratif ynglŷn â’r dyraniadau a wnaed yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2024-25.
· newidiadau a wnaed rhwng Cyllideb Derfynol 2024-25 (a Ailddatganwyd ym mis Medi 2024) a Chyllideb Ddrafft 2025-26. Mae’r rhain yn cynnwys dau fath o newidiadau:
1. addasiadau i’r llinell sylfaen a wnaed i Gyllideb Derfynol 2024-25 (a ailddatganwyd). Gellir priodoli’r rhain yn bennaf i ddyraniadau a wnaed mewn perthynas â dyfarniad cyflog 2024-25 ac i dalu am y costau sy’n gysylltiedig â’r newid yng nghyfradd ddisgowntio SCAPE sy’n effeithio ar bensiynau’r sector cyhoeddus heb eu hariannu. Mae addasiad i’r llinell sylfaen hefyd wedi cael ei wneud i’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Tlodi Tanwydd er mwyn trosglwyddo £1.255m i Brif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol. Mae hwn yn gywiriad i gyllidebau yn sgil y newidiadau mewn portffolios a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn.
2. Dyraniadau a throsglwyddiadau’r Gyllideb Ddrafft; nodir y disgrifiadau ohonynt yn y tablau isod.
Bron yn Arian Parod
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1089: Incwm Sylfaenol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Mae’r gyllideb wedi lleihau £9.2m o gyllideb llinell sylfaen o £10.7m. Dim ond £1.5m sydd ei angen yn 2025-26 i barhau i wneud taliadau terfynol i dderbynyddion yr Incwm Sylfaenol ac i gynnal gwerthusiad o’r cynllun peilot.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1694: Cynhwysiant Ariannol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyllid ychwanegol a ddarparwyd £1.33m Dyraniad o £1m i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn rhoi cymorth mewn argyfwng i’r rhai sydd â’r angen mwyaf ac ymateb i’r galw cynyddol posibl yn ystod 2025-26. Dyraniad o £120k i gyllido ymchwil i gynhwysiant ariannol sy’n benodol i Gymru er mwyn deall nodweddion / tueddiadau a meysydd trawsbynciol â chynhwysiant digidol sydd â ffocws ar Gymru. Dyrennir £13k i roi cynnydd o 3% i Undebau Credyd yn unol â’r cynnydd i randdeiliaid yn y sector cyhoeddus. |
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1084: Cynhwysiant Digidol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dau drosglwyddiad gwerth £1.5m; y naill a’r llall yn afreolaidd heb unrhyw effaith ar linell sylfaen y gyllideb. 1. Trosglwyddiad i mewn o £500k o’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Cymru Iachach (Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol) i gefnogi rhaglen Cymunedau Digidol Cymru. 2. Trosglwyddiad i mewn o £1m o Gronfeydd Wrth Gefn i gefnogi rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyllid ychwanegol a ddarparwyd £1.375m Bydd dyraniad o £1.375m yn cynyddu cyfanswm y cyllid yn 2025-26 i £2.125m ar gyfer rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (yn unol â lefelau 2024-25 ar ôl trosglwyddiadau untro).
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1086: Cefnogi Cymunedau |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad i mewn o £480k o Gronfeydd Wrth Gefn i gefnogi Partneriaethau Bwyd Lleol yng Nghymru. Roedd y cyllid yn afreolaidd. Nid effeithiodd ar linell sylfaen y gyllideb. |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyllid ychwanegol a ddarparwyd £5.029m Dyraniad o £960k i gefnogi Partneriaethau Bwyd Lleol. Dyraniad o £450k mewn perthynas â chyllid grant Tlodi Plant yn y Dyfodol. Bydd y dyraniad ychwanegol yn ychwanegu at y cyllid presennol gwerth £1m. Dyraniad o £250k mewn perthynas â Chymuned Ymarfer y Strategaeth Tlodi Plant Genedlaethol. Dyraniad o £295k i sicrhau bod y rhai â phrofiad bywyd yn cyfrannu at y broses o fonitro cynnydd o ran y Strategaeth Tlodi Plant ac yn dylanwadu arni. £1.5m i gefnogi Canolfannau Clyd yn 2025-26 i’w galluogi i barhau i gefnogi ac ehangu’r ddarpariaeth o leoedd diogel a chynnes mewn cymunedau lleol. £1.5m o gymorth ychwanegol i fynd i’r afael â thlodi bwyd, a fydd yn galluogi prosiectau lleol i helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Bydd cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus yn rhoi cynnydd o £74k i gynyddu dyraniadau i’r Sefydliad Banc Tanwydd a CLlLC a Synnwyr Bwyd Cymru i gyflwyno’r rhaglen Tlodi Bwyd.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
662: Comisiynydd Pobl Hŷn |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Gostyngiad o -£14k yn y gyllideb a oedd yn afreolaidd ac nad oedd yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Gellid priodoli’r trosglwyddiad i gronfeydd wrth gefn i addasiadau o ganlyniad i ailddosbarthu cyllidebau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer lesoedd, sef IFRS 16, a fabwysiadwyd gan y sector cyhoeddus o 1 Ebrill 2022.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd o 3% yn y gyllideb (£48k)
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
480: Y Comisiynydd Plant |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Gostyngiad o -£29k yn y gyllideb a oedd yn afreolaidd ac nad oedd yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Gellid priodoli’r trosglwyddiad i gronfeydd wrth gefn i addasiadau o ganlyniad i ailddosbarthu cyllidebau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer lesoedd, sef IFRS 16, a fabwysiadwyd gan y sector cyhoeddus o 1 Ebrill 2022.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyllid ychwanegol a ddarparwyd £98k Cynnydd o 3% yn y gyllideb (£48k). Dyraniad pellach o £50k (unigol) i gefnogi’r Comisiynydd fel cyfranogwr craidd yn y modiwl ar Blant a Phobl Ifanc yn yr Ymchwiliad i COVID-19.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
470: Penodiadau Cyhoeddus |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dim
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
6400: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd o 3% yn y gyllideb (£48k)
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1575: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad i mewn o £105k o Brif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol (Llinell Wariant 887 yn y Gyllideb) fel rhan o’r broses o ailstrwythuro’r Prif Grŵp Gwariant i gwmpasu costau staff.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
220: Corff Llais y Dinesydd |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Gostyngiad o -£243k yn y gyllideb a oedd yn afreolaidd ac nad oedd yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Gellid priodoli’r trosglwyddiad i gronfeydd wrth gefn i addasiadau o ganlyniad i ailddosbarthu cyllidebau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer lesoedd, sef IFRS 16, a fabwysiadwyd gan y sector cyhoeddus o 1 Ebrill 2022.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd o 3% yn y gyllideb (£228k)
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
541: VAWDASV |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad i mewn o £139k o’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Digartrefedd (Prif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol) i barhau i gyflawni Prosiect Tai i Ffoaduriaid yn 2024-25. Roedd y trosglwyddiad cyllidebol yn un afreolaidd ac nid oedd yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Mae’r gyllideb wedi cynyddu £1.280m. Dyraniad ychwanegol o £500k i helpu i gyflawni Amcan 6 Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-26 i roi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a’r rheini’n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n ymatebol ledled Cymru. Dyraniad o £700k i roi rhagor o gymorth i gyflawni Amcan 4 Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-2026 i roi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal. Bydd cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus yn rhoi cynnydd o £80k yn y Llinell Wariant hon yn y Gyllideb er mwyn cynyddu dyraniadau i bartneriaid yn y trydydd sector.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
7060: Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dyraniadau cyllidebol ychwanegol o £700k Dyraniad o £450k i dargedu camau gweithredu sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol, gan adlewyrchu’r cyd-destun heriol a brofir o hyd gan y rhai â nodweddion gwarchodedig sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu a’r sefydliadau yn y trydydd sector sy’n eu cefnogi. Bydd hyn yn helpu sefydliadau i gefnogi’r broses o gyflawni ein cynlluniau trawslywodraethol, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r cynllun arfaethedig ar hawliau pobl anabl. Dyraniad o £200k i gefnogi gwaith i ddileu rhwystrau i’r gymuned fyddar, a fydd yn gwella mynediad at wasanaethau. Bydd cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus yn rhoi cynnydd o £50k i gynyddu dyraniadau i sefydliadau fel Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
7062: Cymunedau Cydlynus |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Cynnydd yn y gyllideb gwerth cyfanswm o £3.094m a oedd yn afreolaidd ac nad oedd yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Trosglwyddiad i mewn o £304k o’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Digartrefedd (Prif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol) i barhau i gyflawni prosiectau ‘Street Life’ yn 2024-25. Trosglwyddiad i mewn o £200k o Linell Wariant 4763 yn y Gyllideb ar gyfer Darpariaeth ôl-16 (Prif Grŵp Gwariant Addysg) i gryfhau ac ehangu darpariaeth REACH+, a sefydlwyd i leihau amseroedd aros i fudwyr o ran mynediad i ddarpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Trosglwyddiad i mewn o £2.59m o Gronfeydd Wrth Gefn i ariannu awdurdodau lleol i ddarparu cymorth symud ymlaen, preswylio’n sefydlog ac integreiddio i bobl sydd wedi cyrraedd o Wcráin yn 2024-25.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd yn y gyllideb gwerth cyfanswm o £231k Dyraniad o £870k i gynyddu gweithgarwch o dan Wasanaeth Noddfa Cymru sy’n helpu ceiswyr lloches i ddeall eu hawliau, y Rhaglen Cydlyniant; a darparu cyllid newydd ar gyfer rhaglen Talent Beyond Boundaries sy’n cefnogi ffoaduriaid i fudo i gael gwaith gydag urddas a diben a chael budd o fudo medrus. Bydd cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus yn rhoi cynnydd o £61k er mwyn cynyddu dyraniadau i bartneriaid yn y trydydd sector. Trosglwyddiad allan o -£700k o’r Prif Grŵp Gwariant i Brif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol; sef costau’r staff sy’n gweithio ar y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro. Mae’r staff bellach yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Dai.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
7063: Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd gwerth cyfanswm o £312k yn y gyllideb i ddiwallu anghenion sy’n dod i’r amlwg o ran tystiolaeth ym meysydd hil, anabledd, rhywedd neu LHDTC+.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
5334: Gwasanaethau Cynghori |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Cynnydd yn y gyllideb gwerth cyfanswm o £1.391m a oedd yn symiau afreolaidd nad oeddent yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Trosglwyddiad i mewn o £1.291m o Gronfeydd Wrth Gefn i gyfran Llywodraeth Cymru o ardoll ariannol flynyddol y DU ar gyfer darparu cyngor ar ddyledion yng Nghymru yn 2024-25. Trosglwyddiad i mewn o £0.1m o Gronfeydd Wrth Gefn i gyllido ymgyrch costau byw Llywodraeth Cymru, Yma i Helpu.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd gwerth cyfanswm o £2.73m yn y gyllideb. Dyraniad penodol wedi’i glustnodi o £1.874m gan Lywodraeth y DU o’r Ardoll Ddyled. £0.5m i gefnogi gwaith ar symleiddio budd-daliadau yng Nghymru. Bydd cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus yn rhoi cynnydd o £363k er mwyn cynyddu dyraniadau i sefydliadau yn y trydydd sector, gan gynnwys Shelter.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1695: Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cynnydd gwerth cyfanswm o £1.44m yn y gyllideb i gefnogi seilwaith a gwirfoddoli yn y trydydd sector a rhoi cynnydd o 3% yn y gyllideb i bartneriaid yn y trydydd sector yn unol â’r hyn a ddarparwyd i gyrff yn y sector cyhoeddus.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
830: Cymorth Cymunedol a Diogelwch |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyfanswm o £515k Dyraniad afreolaidd unigol o £50k i gynnal gwerthusiad o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Cynnydd o 3% yn y gyllideb yn unol â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus (£465k)
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1267: Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Cyllid ychwanegol o £200k i ehangu gwaith ar y Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid er mwyn ymdrin â rhai o’r problemau anoddaf a mwyaf cymhleth gyda’r system cyfiawnder ieuenctid a rhoi gwell cymorth i blant sy’n agored i niwed er mwyn iddynt gael eu dargyfeirio oddi wrth droseddu.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1270: Tlodi Tanwydd |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad allan o -£1.255m i Brif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag ailstrwythuro Prif Grwpiau Gwariant. Afreolaidd.
Cafodd y trosglwyddiad hwn ei gynnwys yn y lllinell sylfaen drwy addasiad i’r llinell sylfaen.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dim
|
Heb Fod yn Arian Parod
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1084: Cynhwysiant Digidol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad o -£124k i Gronfeydd Wrth Gefn oherwydd lleihad yn y ddarpariaeth heb fod yn arian parod sydd ei hangen.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
662: Comisiynydd Pobl Hŷn |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Cyfanswm trosglwyddiadau i mewn o £43k nad oeddent yn afreolaidd ac nad oeddent yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Trosglwyddiad o £16k i gronfeydd wrth gefn y gellir ei briodoli i addasiadau o ganlyniad i ailddosbarthu cyllidebau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer lesoedd, sef IFRS 16, a fabwysiadwyd gan y sector cyhoeddus o 1 Ebrill 2022. Trosglwyddiad o £27k o gronfeydd wrth gefn i roi darpariaeth heb fod yn arian parod (heb fod yn gysylltiedig ag IFRS16) yn 2024-25.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiadau lluosog o £43k fel uchod o ganlyniad i natur afreolaidd trosglwyddiadau yn y Gyllideb Atodol Gyntaf.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
6400: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad o £10k o gronfeydd wrth gefn i roi darpariaeth heb fod yn arian parod (heb fod yn gysylltiedig ag IFRS16) yn 2024-25.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad o £10k o gronfeydd wrth gefn i roi darpariaeth heb fod yn arian parod (heb fod yn gysylltiedig ag IFRS16) yn 2024-25.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
220: Corff Llais y Dinesydd |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Cyfanswm trosglwyddiadau o £367k nad oeddent yn afreolaidd ac nad oeddent yn effeithio ar linell sylfaen y gyllideb. Trosglwyddiad o £242k i gronfeydd wrth gefn y gellir ei briodoli i addasiadau o ganlyniad i ailddosbarthu cyllidebau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer lesoedd, sef IFRS 16, a fabwysiadwyd gan y sector cyhoeddus o 1 Ebrill 2022. Trosglwyddiad o £125k o gronfeydd wrth gefn i roi darpariaeth heb fod yn arian parod (heb fod yn gysylltiedig ag IFRS16) yn 2024-25.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiadau o £367k fel y’u nodwyd uchod o ganlyniad i natur afreolaidd trosglwyddiadau yn y Gyllideb Atodol Gyntaf.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
7060: Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad o -£2k i Gronfeydd Wrth Gefn oherwydd lleihad yn y ddarpariaeth heb fod yn arian parod sydd ei hangen.
|
Cyfalaf
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1694: Cynhwysiant Ariannol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad yn y Prif Grŵp Gwariant i ailbwrpasu -£80k a ddarparwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25 ar sail afreolaidd unigol.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1088: Y Banc Cymunedol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad o -£10k i Linell Wariant 6400 yn y Gyllideb ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn ailddylunio gwefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad yn y Prif Grŵp Gwariant i ailbwrpasu -£50k, nid oes unrhyw gynlluniau i fwrw ymlaen â’r gweithgaredd yn ystod 2025-26.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
541: VAWDASV |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dyraniad o £900k i gynllun Grantiau Cyfalaf VAWDASV sy’n darparu grantiau bach a mawr i helpu i gyflawni Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-26. Mae hyn yn cynnwys cyllido eiddo, gwaith adnewyddu, gwella gwasanaethau, prosiectau diogelwch dioddefwyr a gwella ac uwchraddio lleoedd a chyfarpar i ddefnyddwyr gwasanaethau.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
662: Comisiynydd Pobl Hŷn |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad yn y Prif Grŵp Gwariant i ailbwrpasu -£100k a ddarparwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25 ar sail afreolaidd unigol.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
480: Y Comisiynydd Plant |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Swm o -£20k wedi’i ailbwrpasu o’r gyllideb hon yn ystod y flwyddyn gan na ellid defnyddio’r cyllid yn ôl y bwriad.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad yn y Prif Grŵp Gwariant i ailbwrpasu -£20k a ddarparwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25 ar sail afreolaidd unigol.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
6400: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dyrannwyd £30k yn ystod y flwyddyn ar sail afreolaidd unigol i gefnogi’r gwaith o ailddylunio gwefan y Comisiynydd.
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dim newidiadau
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
220: Corff Llais y Dinesydd |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Trosglwyddiad o £128k o Gronfeydd Wrth Gefn ar sail afreolaidd oherwydd goblygiadau IFRS 16 o ran Terfynau Adrannol Cyfalaf ar ôl ailfesur addasiadau Rhwymedigaethau Lesoedd a Hawl i Ddefnyddio. |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dim newid |
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1267: Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder Ieuenctid |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Trosglwyddiad allan o -£200k mewn perthynas â dyraniadau cyllidebol a ddarparwyd drwy Gyllideb Ddrafft 2024-25 ar sail afreolaidd unigol.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1372: Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dyraniad o £2.9m i’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
|
Cyfalaf Trafodiadau Ariannol
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1694: Cynhwysiant Ariannol – ad-daliadau |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau
|
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Ad-daliadau arfaethedig o -£39m sy’n ymwneud â Chyfalaf Trafodiadau Ariannol.
|
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb |
1372: Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (Cyfalaf Trafodiadau Ariannol) |
|
Newidiadau i Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 |
Dim newidiadau |
|
Newidiadau i Gyllideb Ddrafft 2025-26 |
Dyraniad o £1.5m i gefnogi Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol CGGC. |